Ffotograff tirwedd yn edrych ar draws caeau rhwng Comins Coch a Gelli Angharad.

Mae Cyngor Cymuned y Faenir o’r 51 o Gynghorau Tref a Chymuned sy’n cwmpasu Ceredigion.  Mae gan y Faenor ddwy ward.  Mae un yn cynnwys Waunfawr a’r rhan fwyaf o Bentre Jane Morgan, tra bod y llall yn cynnwys Comins Coch, Capel Dewi a Gelli Angharad.  Ar hyn o bryd, mae 12 Cynghorydd Cymuned sy’n cyfarfod deg gwaith y flwyddyn, ond bydd y nifer yn gostwng i 8 Cynghorydd ym mis Mai 2027 yn dilyn newidiadau diweddar gan Gomisiwn Ffiniau Cymru.

Adeiladwyd y rhan fwaf o’r tai yn y Faenor o’r 1960au ymlaen i gartrefu poblogaeth Aberystwytj a’i Phrifysgol.  Mai Pentre Jane Morgan wedi creu tai pwrpasol i fyfyrwyr ar dir a arferai fod yn rhan o fferm y Brifysgol tan y 1990au.

Er gwaethaf y cysylltiad agos hwn a’r Brifysgol. mae’r Faenor yn gymuned ar wahan i Aberystwyth a’r Brifysgol, gyd Chymdeithasau Cymunedol yn Waunfawr a Comins Coch.

Yn ogystal, mae gan Waunfawr archfarchnad lleol, swyddfa bost a siopau eraill, ac mae gan Comins Coch ysgol gynradd. 

Scroll to Top